https://nda.blog.gov.uk/2018/01/25/yn-sweden-maer-creigiau-wedi-siarad/

Yn Sweden, mae’r creigiau wedi siarad

Fi yw Jonathan Turner, daearegwr siartredig sy’n gweithio i RWM fel Prif Ddaearegwr ac yn fwy diweddar fel Cyfarwyddwr Technegol Gweithredol. Mae fy nghefndir ym maes archwilio olew a nwy ac rwyf wedi bod yn ymwneud â nifer o brosiectau o gwmpas y byd.

Yn ystod ymweliad gwaith â Sweden yn ddiweddar, bu i mi ymweld â nifer o gyfleusterau oedd yn gysylltiedig â gwaredu daearegol:

Map o ystorfeydd Sweden, drwy garedigrwydd SKB

Mae ymweld â chyfleusterau gwastraff ymbelydrol mewn gwledydd eraill yn rhywbeth gwerthfawr i’w wneud er mwyn cael teimlad o faint ac er mwyn dysgu gwersi o ddatblygiadau mewn gwledydd eraill.

Mae’r cyfleuster SFR wedi bod yn weithredol ers 1988. Yn 2009 penderfynwyd y byddai ystorfa ddofn Sweden ar gyfer gwastraff lefel uchel hefyd yn cael ei lleoli ger Forsmark, sydd 60km o Stockholm.

Roedd y broses o ganfod safle addas wedi mynd rhagddi am nifer o flynyddoedd ac ystyriwyd nifer o lefydd. Fel yn Y Ffindir, y brif graig yn Sweden yw ithfaen a chreigiau sylfaen crisialaidd eraill. Ar ôl cynnal dadansoddiad daearegol a gwaith gyda chymunedau lleol, cyfyngwyd y dewis i ddwy gymuned: Forsmark ac Oskarshamn.

Yn dilyn gwerthusiad technegol maith, yn 2009 cyhoeddodd SKB yn y diwedd y byddai’r Cyfleuster Gwaredu Daearegol (GDF) yn cael ei leoli yn Forsmark. Datganodd cyfarwyddwr SKB “mae’r creigiau wedi siarad”, fel petai addasrwydd Forsmark ar gyfer cadw gwastraff ymbelydrol yn wirionedd cyffredinol a gymerodd amser i’w ganfod.

“Mae’r creigiau wedi siarad”

Cyflwynodd Sweden ei chais am drwydded i adeiladu ystorfa ddofn ar gyfer ei gweddillion tanwydd yn 2011, ac mae’n dal yn destun adolygiad a chraffu manwl. Yn 2016, bu i’r rheoleiddwyr diogelwch roi eu cymeradwyaeth. Mae Llys Amgylcheddol Sweden yn eistedd o fis Medi eleni a bydd canlyniad y cais terfynol am drwydded yn dibynnu ar ei adroddiad.

Mae gwybodaeth a rhwydweithiau lleol wedi bod yn allweddol i ymagwedd SKB tuag at feithrin perthynas gymunedol a chydymddiriedaeth.  Mae cyn driniwr gwallt o Forsmark, Inger Nordholm, bellach yn uwch aelod o dîm ymgysylltu cymunedol SKB. Cafodd ei recriwtio oherwydd ei gwybodaeth bersonol am draddodiadau lleol. Ar brydiau dim ond mân bethau oedd hynny, megis ffafrio derbyniadau ‘coffi a brechdanau’ di-stŵr.

Roedd ehangder rhaglen reoli gwastraff Sweden wedi gwneud argraff arbennig arnaf wrth ymweld â’r cyfleusterau ger Oskarshamn. Mae’r labordy ymchwil canistereiddio ar y dociau yn cynnwys labordy maint awyrendy ble maent yn cynnal arbrofion maint llawn ar brosesau megis weldio troi ffrithiant, pelydr-x a dadansoddiad uwchsain o ansawdd weldio cistiau a strwythur microgrisialaidd copr.

Clywais hefyd am y gwaith maent yn ei wneud er mwyn deall ymddygiad hirdymor copr. Roedd hynny hyd yn oed yn cynnwys archwilio baril canon 400 oed o longddrylliad. Roedd yn amlwg bod pen y faril wedi rhydu llai oherwydd ei fod wedi cael ei gladdu mewn mwd oedd yn llawn sylffwr.

Yn y cyfleuster tanddaearol yn Äspö, mae arbrawf arall fydd yn cael ei chynnal yn 2017 yn cynnwys addasu peiriant tyllu twnnel 70m o hyd sydd â phen torri â diamedr o 5.5m, wedi ei osod ar gledrau caterpillar, ac a ddyluniwyd yn wreiddiol (ac a ddiddymwyd wedyn) gan y cewri cloddio, Rio Tinto Zinc.

Mae holl arfordir Sweden, yn arbennig ‘ynysforoedd Stockholm’ yn amgylcheddol sensitif ac yn fagnet i bobl leol sy’n byw yn y ddinas ar benwythnosau ac ar wyliau. Gwelais eryr cynffonwyn wrth i ni yrru ger Forsmark a chlywais am nifer o nodweddion sensitif cadwraethol eraill, oedd yn arwydd cryf o ba mor uchel yw’r safonau diogelwch sy’n gysylltiedig â’r gwaith.

Roedd hi’n drawiadol sut yr oedd y casgliad o adeiladu sy’n perthyn i Labordy Craig Galed Äspö, yn cynnwys gorchudd siafft y gloddfa, wedi cael eu dylunio’n sympathetig gan barchu traddodiadau adeiladu lleol - wedi eu gwneud o goed mewn arddull bensaernïol draddodiadol.

Cefais fy nghyffroi wrth weld â fy llygaid fy hun y cynnydd sy’n cael ei wneud o ran rheoli gwastraff ymbelydrol yn Sweden, ac mae hynny wedi creu brwdfrydedd ynof ynghylch beth ellir ei gyflawni yn y DU yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod.

15 munud gyda…Kaj Ahlbom

Jonathan Turner gyda Kaj Alhbom

Mae Kai yn ddaearegwr sydd wedi gweithio ers 25 mlynedd ar raglen dewis safleoedd ac archwilio safleoedd SKB, Cwmni Rheoli Tanwydd a Gwastraff Niwclear Sweden sy’n adeiladu’r Ystorfa Gweddillion Tanwydd yn Forsmark ar gyfer gwaredu gwastraff ymbelydrol yn ddiogel o bwerdai niwclear yn Sweden.

Kaj, beth fu uchafbwynt y broses i ti?

Roedd yna lawer o uchafbwyntiau. Roedd archwilio'r safle yn Forsmark yn gyfnod gwych i mi, yn gweithio ar ddaeareg gyda llawer o bobl ddeallus iawn. Roeddwn i wrth fy modd, a hwnnw oedd y cyfnod hapusaf i mi.

A beth am y pwynt isaf?

Nid wyf wedi cael pwynt isel, hyd yn oed pan oedd rhai cymunedau yn penderfynu nad oeddent eisiau cymryd rhan yn y rhaglen o ddewis lleoliad. Oherwydd bod hynny’n rhan o broses ddemocrataidd nid oeddwn yn ystyried bod hynny’n bwynt isel. Mae popeth yn cael cyfnodau gwell na’i gilydd, ond mae’n rhaid i ni dderbyn bod hynny’n rhan o’r gwaith.

Sut deimlad yw bod yn rhan o rywbeth fydd yn para am ganrifoedd, ymhell ar ôl i ti fynd?

Nid yw hynny’n rhywbeth fyddwn yn meddwl amdano yn ystod diwrnod arferol o waith. Rwyf yn wirioneddol yn gwerthfawrogi bod yn rhan o’r gwaith mae SKB wedi ei wneud. Y peth pwysig yw ein bod wedi canfod safle ar gyfer yr ystorfa fydd gobeithio yn cael ei gymeradwyo yn y dyfodol agos. Mae cyflawni hynny yn ystod gyrfa rhywun yn brofiad euraidd.

I gael mwy o wybodaeth am waredu daearegol, neu i gysylltu â Rheoli Gwastraff Ymbelydrol (RWM), ewch i’n gwefan.

Gallwch hefyd danysgrifio i dderbyn ein e-fwletin.

 

Leave a comment

We only ask for your email address so we know you're a real person