Skip to main content

This blog post was published under the 2015-2024 Conservative Administration

https://nda.blog.gov.uk/ateb-hirdymor-ar-gyfer-gwastraff-ymbelydrol/

Ateb hirdymor ar gyfer gwastraff ymbelydrol

Dr Sam King, Head of Technical Strategy, RWM
Dr Sam King, Head of Technical Strategy, RWM

Wrth i mi siarad gyda phobl ynglŷn â’n cynlluniau ar gyfer gwastraff ymbelydrol actifedd uwch y DU, un cwestiwn yr ydw i’n ei glywed yn aml yw: beth sydd o’i le ar y ffordd yr ydym yn ymdrin â’r gwastraff yn awr?

Mae’n gwestiwn teg.  Ceir storfeydd o wastraff ymbelydrol mewn amrywiol safleoedd diogel o gwmpas Lloegr, Yr Alban a Chymru.  Diolch i gyfleusterau storio arbenigol, mae’r gwastraff yn ddiogel lle mae ar hyn o bryd, ac mae’r cymunedau gerllaw yn ddiogel oddi wrtho hefyd.  Os nad yw’r system bresennol yn ddiffygiol, pan ddylid ei newid?

Yr ateb byr yw bod y trefniadau presennol yn ateb da ar hyn o bryd, ond rydym ni angen ateb ar gyfer yr hirdymor.  Bydd rhai mathau o wastraff ymbelydrol yn parhau yn beryglus am gannoedd o filoedd o flynyddoedd ac ni fydd y cyfleusterau storio presennol yn para mor hir â hynny.

Mae gwastraff ymbelydrol yn cael ei becynnu i ddal ei ymbelydredd a’i wneud yn fwy diogel i’w storio, ond nid yw’r pecynnu yn annistryw.  Os byddwn yn parhau i drin y gwastraff yn yr un union ffordd ag yr ydym yn ei wneud yn awr, mewn oddeutu 100 mlynedd neu fwy, byddwn yn dechrau gweld rhwd ar wyneb rhai o’r pecynnau.

Byddai angen i’r pecynnau gael eu disodli, ac mewn amser, byddai angen i’r cyfleusterau storio eu hunain yn y pen draw gael eu disodli hefyd. Mae’r dull hwn a’r gwaith sydd ynghlwm â hyn yn creu costau a risg i bobl a’r amgylchedd.

Yn y bôn, mae bwrw ymlaen fel yr ydym yn ei wneud yn golygu gorfodi cenedlaethau’r dyfodol i ysgwyddo’r costau a’r peryglon o ofalu am ein gwastraff.  Mae’r DU wedi bod yn creu gwastraff ymbelydrol ers cyn i mi gael fy ngeni, ac felly mae eisoes wedi cael ei drosglwyddo o un genhedlaeth i’r nesaf.  Mae dyletswydd a chyfrifoldeb arnom i dorri’r gadwyn honno er mwyn cenedlaethau’r dyfodol.

Ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol

Ein nod yw symud gwastraff ymbelydrol actifedd uwch y DU i Gyfleuster Gwaredu Daearegol (GDF), sef cyfres o gromgelloedd a thwneli tra arbenigol mewn creigiau soled gannoedd o fetrau islaw’r ddaear.

Mae GDF yn cael ei ddylunio ar gyfer ei adeiladu, ei lenwi gyda gwastraff ymbelydrol, ei selio a’i adael ar ei ben ei hun.

Os yw pecynnau gwastraff yn rhydu y tu mewn i GDF, bydd haenau a haenau o rwystrau, rhai haenau naturiol a rhai haenau artiffisial, yn atal yr ymbelydredd rhag niweidio pobl na’r amgylchedd.

Ni fydd unrhyw angen ailbacedu’r gwastraff nac ailadeiladu’r cyfleusterau, gan ysgafnhau’r gwaith ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Bydd symud y gwastraff i GDF hefyd yn ysgafnhau’r baich o gynnal y cyfleusterau storio presennol, gan ryddhau pobl ac adnoddau yn y safleoedd hynny ar gyfer gwaith pwysig arall.

Meddwl ar gyfer yr hirdymor

A fydd ein cymdeithas yn parhau yn sefydlog am gannoedd o filoedd o flynyddoedd?  A fydd hi hyd yn oed yn parhau i fodoli mewn ffurf y byddem ni’n ei hadnabod?

Mae’n amhosibl rhagweld hyn, a dyma pam mai GDF yw’r ateb cywir ar gyfer yr hirdymor.  Cannoedd o fetrau o dan y ddaear, mae’r amgylchedd daearegol wedi bod yn sefydlog am gyfnod hirach nag y mae cymdeithas wedi bodoli.  I lawr yn y fan honno, bydd GDF yn gallu parhau mor ddiogel â’r diwrnod y cafodd ei adeiladu, beth bynnag yw’r newidiadau neu’r chwalfeydd sy’n effeithio ar gymdeithas ar wyneb y ddaear.  Mae’n cael ei ddylunio i beidio â chael ei effeithio gan bandemig, fel Covid-19, digwyddiadau cymdeithasol a gwleidyddol, a hyd yn oed digwyddiadau eithafol fel daeargrynfeydd, tswnamïau neu oes yr iâ newydd.

Bu gwyddonwyr yn ymchwilio i mewn i’r her hon ers degawdau bellach, ac o’r holl atebion y mae’r gymuned wyddonol wedi’u dyfeisio, mae cytundeb rhyngwladol mai gwaredu daearegol yw’r dewis gorau sydd ar gael.

Dr Sam King at WIPP
Dr Sam King, on a visit to the U.S. Department of Energy's Waste Isolation Pilot Plant (WIPP)

Sharing and comments

Share this page