Skip to main content

https://nda.blog.gov.uk/gwir-ddewis-lleol/

Gwir ddewis lleol

Annabelle Lillycrop, in conversation with a member of the public
Annabelle Lillycrop, in conversation with a member of the public

Rydym yn chwilio am gymuned sy’n fodlon derbyn Cyfleuster Gwaredu Daearegol (GDF), lle y byddwn yn gwaredu gwastraff ymbelydrol uwch ei actifedd y DU yn ddiogel.

Nid wyf yn byw ymhell o orsaf bŵer Hinkley Point, ac felly rydw i’n gwybod sut beth yw byw mewn cymuned lle mae cyfleuster niwclear mawr.  Ceir digon o fuddion, ond mae’n ymrwymiad mawr – y math o ymrwymiad sydd angen trafodaeth wirioneddol a thrafodaeth ddofn mewn cymuned.  Dyna pam yr ydym yn defnyddio proses unigryw sy’n seiliedig ar ganiatâd gan y gymuned i ddod o hyd i leoliad addas ar gyfer GDF.

Cynllunnir y broses i sicrhau bod unrhyw gymuned sydd â diddordeb yn gallu gwneud penderfyniad deallus llawn ynglŷn â derbyn GDF.

1. Mae’n dechrau gyda chi

Gyda rhai prosiectau isadeiledd mawr eraill, gall fod y datblygwr yn gwybod eisoes lle mae yn dymuno ei adeiladu, ac yna mae’n ymgynghori â phobl yn yr ardal honno ynglŷn â’r ffordd orau i’w gyflawni.

Mae’r broses o leoli ar sail caniatâd ar gyfer GDF yn gweithio i’r gwrthwyneb.  Rydym yn dechrau gyda thrafodaethau mewn cymunedau ynglŷn â beth all fod ynghlwm â’r cyfleuster hwn ac a fyddai hynny yn rhywbeth y gall fod pobl yn dymuno gwybod mwy amdano, heb unrhyw ymrwymiad i dderbyn unrhyw beth.

Nid oes raid i ddiddordeb olygu cefnogaeth.  Gallwch chi gysylltu â ni yn unig er mwyn cael mwy o wybodaeth, hyd yn oed os nad ydych chi o blaid derbyn GDF.

We’ll work with a community until people feel that they can make an informed decision about hosting a GDF

2. Gallwch chi ofyn unrhyw beth inni

Efallai na fydd trafodaethau yn symud ymlaen ymhellach na phartïon sydd â diddordeb yn gofyn rhai cwestiynau.  Er hynny, os ydyn nhw’n meddwl y gallai hyn fod o ddiddordeb ehangach yn eu hardal, yna gellir sefydlu Gweithgor er mwyn agor y drafodaeth i’r cyhoedd yn ehangach.  Bydd Radioactive Waste Management (RWM) yn un aelod o’r Grŵp, ochr yn ochr â rhanddeiliaid eraill.  Dyna yw fy swyddogaeth i.  Mae Rheolwr Rhanbarthol fel fi yn gweithredu fel cysylltiad rhwng y Gweithgor a RWM.

Os dengys y trafodaethau darganfod ffeithiau cynnar hyn bod potensial yn yr ardal a diddordeb i gael mwy o wybodaeth, yna byddai Partneriaeth Gymunedol sy’n cynnwys yr awdurdod lleol ac sy’n adlewyrchu buddiannau amrywiol y gymuned yn cael ei sefydlu, gyda mynediad at Gyllid Buddsoddi uniongyrchol ar gyfer y gymuned.  Fy swyddogaeth i fydd cefnogi anghenion y Bartneriaeth honno ar ran RWM ac ar ran y gymuned.

Yn naturiol, bydd unrhyw gymuned sy’n cymryd rhan yn gofyn llawer o gwestiynau a gall fod ganddi bryderon.  Fy nghyfrifoldeb i a’m cydweithwyr yw sicrhau ein bod yn darparu atebion boddhaol.  Nid oes unrhyw ffordd benodol o wneud hyn; mae’r cwbl yn dibynnu ar beth mae’ch cymuned chi ei angen a’r hyn sy’n gyfforddus iddi.  Gallwn drefnu arddangosfeydd a chyfarfodydd cyhoeddus, byddwn yn sefydlu gwefan ac yn postio gwybodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol, er enghraifft.

Byddwn yn parhau i weithio â’ch cymuned tan y bydd pobl yn teimlo y gallan nhw wneud penderfyniad deallus ynglŷn â chroesawu GDF.  Gall gymryd amser hir i gyrraedd y pwynt hwn, ac mae hynny yn hollol iawn.  Prosiect tymor hir yw hwn, ac mae caniatâd deallus yn bwysicach nag unrhyw benderfyniad cyflym.

A GDF would create investment and jobs for many generations
A GDF would create investment and jobs for many generations

3. Penderfyniad y bobl yw hyn

Unwaith y bydd pobl yn teimlo’n ddigon deallus, mae’n rhaid cael Prawf o Gefnogaeth Gyhoeddus.  Bydd y Bartneriaeth Gymunedol yn penderfynu sut y gwneir hyn.  Gall fod yn bleidlais, refferendwm, ymgynghoriad cyhoeddus neu rywbeth gwahanol.

Mae’r cam pwysig hwn yn sicrhau mai’r gymuned sy’n cael y gair olaf a ydyn nhw’n dymuno symud ymlaen.  Os dengys y prawf nad oes digon o gefnogaeth gyhoeddus dros GDF, dyna fo: byddwn yn troi ein cefnau.

Mewn gwirionedd, gall cymunedau dynnu allan o’r broses ar unrhyw adeg, am unrhyw reswm, tan y Prawf o Gefnogaeth Gyhoeddus.  Os yw’r gymuned yn tynnu’n ôl, bydd y broses yn cael ei hatal yn y gymuned honno.

4. Bydd y gwiriadau a’r cadw cydbwysedd arferol yn parhau i ddilyn

Ceir llawer o wiriadau a phrosesau cyfreithiol a rheoleiddiol y mae’n rhaid i brosiectau isadeiledd mawr fynd trwyddyn nhw cyn y gellir dechrau adeiladu.  Er enghraifft, trwyddedu amgylcheddol a chynllunio defnydd tir.

Nid yw derbyn caniatâd y gymuned yn golygu y gallwn ni hepgor y prosesau hyn.  Gofyniad ychwanegol yw’r broses ar sail caniatâd y mae’n rhaid i CDG gwrdd ag ef cyn y gall y prosesau arferol hyd yn oed ddechrau.

Mae hynny yn golygu nad y Prawf o Gefnogaeth Gyhoeddus yw eich cyfle olaf chi i ddweud eich dweud.  Gall pobl barhau i ddylanwadu ar y prosiect ar ôl y prawf drwy’r prosesau ymgysylltu ac ymgynghori arferol.  Y prawf yw un ran o’r broses gwneud penderfyniadau yn unig ac mae gan y DU reoleiddwyr cryf, annibynnol a fydd yn parhau i edrych ar ôl materion fel diogelwch a’r amgylchedd ar ran pawb, gydag ymglymiad cyhoeddus pellach.

5. Rydym wedi dysgu o brofiad

Mae proses flaenorol o leoli GDF, a ddaeth i ben yn 2013, a phrofiad o amgylch y byd o lawer o brosiectau gwaredu daearegol eraill sydd ar y gweill, wedi caniatáu inni ddysgu gwersi defnyddiol.  Yn benodol, pwysigrwydd darparu gwybodaeth ymlaen llaw ynglŷn â materion fel daeareg, effeithiau cymdeithasol-economaidd a buddsoddiad cymunedol.  Dyna pam yr ydym wedi ymgymryd â Sgrinio Daearegol Cenedlaethol i grynhoi’r ddaeareg sy’n berthnasol i waredu gwastraff ymbelydrol uwch ei actifedd yn ddiogel.

Roedd nifer o’m cydweithwyr ynghlwm â’r broses gynharach o leoli, ac felly mae’r dull presennol yn elwa o’u profiad nhw.

Y tro hwn, mae hyn yn llawer mwy am weithio yn hyblyg mewn partneriaeth gyda’r gymuned i ymdrin â’r pethau sydd o bwys i bobl leol.    Mae’r gymuned wrth galon y dull, a byddwn ni ar gael i gefnogi, darparu gwybodaeth ac ateb y cwestiynau sydd gan y gymuned.

A oes gennych chi ddiddordeb?

Rydym yn awr angen cael ateb diogel a chynaliadwy ar gyfer gwastraff ymbelydrol uwch ei actifedd sy’n gweithio ar gyfer y gymuned leol a’r wlad gyfan.  Ni fydd y broses hon yn llwyddo heb safle addas a chymuned sy’n fodlon.

Yn awr eich bod chi’n gwybod beth sydd ynghlwm â hyn, gobeithiaf y byddwch chi’n ystyried y cyfle hwn ar gyfer eich cymuned chi.   Gallwch chi ofyn cwestiynau a chael mwy o wybodaeth heb ymrwymo eich hun na’ch cymuned i unrhyw beth.  Rydw i wrthi’n brysur yn cynhyrchu adnoddau ar gyfer cymunedau sydd â diddordeb – gobeithiaf y byddaf yn cael cyfle i’w rhannu nhw gyda chi.

I gael mwy o wybodaeth am waredu daearegol a'n chwiliad am safle addas, ewch i'n gwefan neu cysylltwch â ni trwy e-bost.


 

Sharing and comments

Share this page