Manteision hirdymor
Bydd cymuned sy’n cynnal cyfleuster gwaredu daearegol (GDF) ar gyfer gwastraff ymbelydrol yn helpu i ddatrys problem enfawr i’r DU, nid nawr yn unig, ond unwaith ac am byth. Ac i’r gymuned ei hun, bydd llu o fanteision yn deillio o’r buddsoddiad hwn gwerth biliynau o bunnoedd. Byddai’r manteision ariannu’n dechrau’n syth, a manteision o ran swyddi’n parhau am genedlaethau.
Bydd unrhyw brosiect seilwaith gwerth biliynau yn creu miloedd o swyddi, a llawer o’r rheiny’n rhai sy’n gofyn am sgiliau arbenigol. Beth sy’n wahanol am GDF yw er y bydd y cyfnod adeiladu cychwynnol yn para tua 10 mlynedd ac yn gofyn am weithlu oddeutu 2,000 o bobl yn ystod y cyfnod prysuraf – bydd yr adeiladu a’r gweithredu’n cymryd ymhell dros 100 mlynedd, gan gyflogi pobl leol a chefnogi busnesau lleol ar yr un pryd.
Bydd gweithgareddau adeiladu’n parhau gydol ei oes weithredol, wrth i’r rhwydwaith o dwneli a chromgelloedd gael ei ymestyn ar sail cam wrth gam. Bydd y GDF yn derbyn gwastraff am dros ganrif, a disgwylir iddo gefnogi miloedd o swyddi, yn rhai amser llawn yn y cyfleuster, ac yn fwy anuniongyrchol, yn y gadwyn gyflenwi.
Cyfleoedd lleol
Bydd rhai swyddi’n gofyn am arbenigwyr allanol, ond bydd llawer o sgiliau ar gael yn lleol, ochr yn ochr â chyflenwyr. Rydym yn bwriadu recriwtio cymaint o bobl a busnesau lleol â phosib, yn ogystal â buddsoddi i hyfforddiant i adeiladu arbenigedd digonol ar gyfer y blynyddoedd gweithredol o’n blaenau. Pan fyddwn yn deall mwy am leoliad posib, byddwn yn gallu datblygu darlun mwy clir.
Yn union fel y mae Sellafield, Cymbria, wedi denu llawer o fusnesau niwclear arbenigol ac wedi arwain at sefydliad Arfordir Ynni Prydain, gyda mentrau addysgol ar sail niwclear, byddai GDF yn denu buddsoddiad mewnol hefyd.
Bydd gan genedlaethau o bobl gyfleoedd i ddatblygu eu sgiliau a manteisio ar fentrau cyflogaeth a hyfforddiant newydd.
Mae gwaith â chyflog da hefyd yn cynyddu pŵer gwariant, gan gefnogi ystod eang o fusnesau lleol.
Amwynderau a seilwaith
Gallai GDF hefyd fod angen seilwaith cysylltiedig megis ffyrdd gwell, rhwydweithiau rheilffordd, neu welliannau i borthladdoedd. Er enghraifft, yn Sweden, gallai cynlluniau ar gyfer GDF gynnwys terfynell fferi newydd a gwasanaethau trenau’n cysylltu’r gymuned letyol, sef Forsmark, â’r brifddinas, Stockholm.
Yn y DU, bydd y gymuned letyol yn datblygu gweledigaeth hirdymor, all gynnwys cysylltiadau trafnidiaeth gwell, band-eang, addysg, cyfleusterau gofal iechyd neu welliannau amgylcheddol. Ydych chi’n cofio sut cafodd gwastraff o waith adeiladu Parc Olympaidd Llundain yn 2012 ei ddefnyddio i greu gwarchodfa natur newydd?
Wrth i ni symud ymlaen a gallu canolbwyntio, er enghraifft, ar leoliad daearegol realistig mewn ardal benodol, bydd RWM yn comisiynu astudiaeth fanwl o’r gofynion sgiliau, arbenigedd a hyfforddiant arfaethedig.
Buddsoddi i’r gymuned
Wrth gwrs, bydd GDF hefyd yn dod â manteision sylweddol ymhell cyn y cam adeiladu.
Cyn meddwl am adeiladu hyd yn oed, mae arnom angen cydsyniad gwybodus cymuned, all gynnwys ymrwymiad i ofyn cwestiynau, darllen adnoddau, mynd i gyfarfodydd a mwy. Er mwyn osgoi llorio cymuned, mae cyllid y llywodraeth ar gael i dalu costau cyfarfodydd a cheisio gwybodaeth o ffynonellau print neu ar-lein.
Mae’r cyfle i gymryd rhan mewn penderfyniad mor fawr hefyd yn ymwneud â chymunedau’n penderfynu beth maen nhw’n awyddus i’w gael i’w dyfodol eu hunain.
Unwaith y bydd aelodau’r Gweithgor a’r gymuned ehangach, yn ogystal â Rheoli Gwastraff Ymbelydrol, yn cyrraedd pwynt lle maent yn barod i ffurfio Partneriaeth Gymunedol, bydd cyllid buddsoddi cymunedol o hyd at £1 miliwn ar gael y flwyddyn. Bydd Partneriaeth Gymunedol yn cael ei chreu ar ôl i’r Gweithgor ymgysylltu’n lleol ac adnabod un neu fwy o Ardaloedd Chwilio arfaethedig. Mae’r ffigur hwn yn codi hyd at £2.5 miliwn y flwyddyn unwaith y mae’r archwiliadau dyfrdyllau dwfn yn digwydd, sy’n rhan o’r broses i ddeall y ddaeareg.
Cyllid cynnar sydd ar gael
Ac wrth ddyrannu adnoddau, bydd y Bartneriaeth Gymunedol yn gwrando ar farn a blaenoriaethau lleol, er enghraifft, cefnogi chwaraeon, datblygu economaidd, lles y gymuned, buddsoddi i bobl ifanc, ehangu llyfrgelloedd ac ati. Bydd pobl leol yn gallu ceisio cyllid ar gyfer prosiectau perthnasol.
Deilliodd y buddsoddiad i gyllid cynnar o adolygu trafodaethau GDF blaenorol a ddaeth i ben yn 2013. Gydol y broses, roedd pobl yn deall y byddai’r GDF wedi dod â manteision enfawr – ond pan ddaeth y broses i ben, doedd dim modd gwireddu’r manteision hynny. Bellach, gall cymunedau ddefnyddio’r cyllid cyn unrhyw ymrwymiad i GDF, gan elwa ar ymgysylltu yn y broses beth bynnag fo’r canlyniad.
Mae pawb yn elwa
Mae’r cyfuniad o gyllid amrywiol, buddsoddiadau a manteision eraill yn golygu y bydd GDF yn gwella bywyd i bobl y gymuned letyol nawr, a gydol bywyd aml-genhedlaeth y cyfleuster.
Cyn i mi ymuno â Rheoli Gwastraff Ymbelydrol, un o’m swyddi oedd sefydlu elusen i gwmni cyfleustodau. Roedd rhaid i mi ddod o hyd i ffyrdd i sicrhau nad oedd gwaith elusennol y cwmni yn rhannu llwyth o arian, ond yn hytrach yn gwneud gwahaniaeth go iawn. Mae cefnogi seilwaith a phrosiectau hirdymor eraill yn trosi buddsoddiad cymunedol yn fuddion go iawn i gymdeithas.
Mae gwella asedau megis ysgolion neu’r dirwedd yn un o’r ffyrdd mwyaf teg i sicrhau bod pawb yn elwa drwy gydol bywyd y prosiect.
Mae sawl ffordd y gall eich cymuned elwa o gymryd rhan yn y prosiect, i ba bynnag raddau yr ydych chi’n dymuno.
Os hoffech ddysgu mwy, mae croeso i Cysylltwch â Ni
Recent Comments