Yn y DU, rydyn ni wedi bod yn gwneud pethau sy’n cynhyrchu gwastraff ymbelydrol ers degawdau – yn cynnwys cynhyrchu trydan, triniaethau meddygol, amddiffyn ac amrywiaeth o weithgareddau eraill. Mae’n bwysig ein bod ni’n gadw golwg ar yr holl wastraff hwnnw.
I mi, nid penderfyniad ymwybodol oedd bod yn rhan o’r busnes gwaredu gwastraff ymbelydrol. Weithiau mae’r pethau yma’n digwydd! Fe astudiais i ffiseg yn y brifysgol, a doethuriaeth yn y Culham Centre for Fusion Energy. Roeddwn i’ gwneud gwaith geoffiseg pan glywais i am y swydd Uwch-reolwr Rhestrau yma yn Radioactive Waste Management (RWM).
Rydw i wedi bod yn y swydd honno ers saith mlynedd bellach. Rydw i’n mwynhau’r gymysgedd o waith technegol, dadansoddol, gan defnyddio fy nghefndir mewn ffiseg ac yn mynd i’r afael â heriau diddorol, er enghraifft darganfod pa wybodaeth sydd ei hangen arnom ni i fod yn hyderus y gallwn ni waredu gwastraff ymbelydrol yn ddiogel.
Mae eisoes yn bosib gwaredu dros 90% o’r gwastraff ymbelydrol yn y DU heddiw (yn ôl cyfaint), a hynny’n ddiogel mewn safleoedd tirlenwi awdurdodedig, neu yn yr Ystorfa Gwastraff Lefel Isel yn Cumbria. Mae gweddill y gwastraff yn fwy ymbelydrol a bydd yn parhau felly am gyfnod hirach, ac felly mae angen ateb diogel a thymor hir. Yn RWM, rydyn ni’n paratoi cynllun i waredu’r gwastraff hwn yn ddiogel mewn Cyfleuster Gwaredu Daearegol (GDF).
Rhan bwysig o waith fy nhîm yw diweddaru ein hamcangyfrif o faint o wastraff y bydd angen i’r Cyfleuster ei dderbyn. Gelwir yr amcangyfrif hwn yn Rhestr ar gyfer Gwaredu Daearegol. Mae’n swnio fel gwaith sy’n ymwneud â rhifau, ond mewn gwirionedd rydw i’n treulio tipyn o amser yn delio â phobl, yn helpu i wella ein henw da a sut rydyn ni’n ei drafod.
I amcangyfrif faint o wastraff fydd angen mynd i’r GDF, yn gyntaf mae angen i ni wybod faint o wastraff sydd eisoes yn bodoli yn y DU heddiw. Mae’r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear yn help mawr yn hyn o beth – maen nhw’n llunio rhestr o wastraff ymbelydrol y DU bob 3 blynedd ac yn nodi eu canfyddiadau yn Rhestr Gwastraff Ymbelydrol y DU.
Dyma un o’r rhestrau mwyaf cynhwysfawr yn y byd. Mae lefel y manylder yn anhygoel. Mae’n rhoi sylfaen gadarn i mi a fy nhîm weithio arno.
Lle mae’r gwastraff nawr?
Fe wnaeth y Rhestr Gwastraff Ymbelydrol y DU diweddaraf, yn 2020, gadarnhau bod y gwastraff a fydd yn mynd i’r GDF yn cael ei stori mewn amrywiaeth o safleoedd ar draws y DU.
Ar hyn o bryd mae’r cyfaint mwyaf o wastraff ymbelydrol uwch ei actifedd yn y DU yn cael ei gadw mewn cyfleusterau storio arbenigol yn Sellafield yn Cumbria. Yn Sellafield, mae tanwydd sydd wedi cael ei ddefnyddio o adweithyddion niwclear yn cael ei ailbrosesu i wahanu unrhyw ddeunydd a allai fod o ddefnydd. Mae’r holl wastraff ymbelydrol lefel uchel yn y DU yn sgil-gynnyrch o’r ailbrosesu hwn.
Oherwydd bod gwastraff lefel uchel yn cael ei gynhyrchu yn Sellafield, a bod y rhan fwyaf o arbenigwr gwastraff lefel uchel y DU yn gweithio yno, mae Sellafield wedi datblygu cyfleusterau diogel ar gyfer storio gwastraff ymbelydrol. Ar ôl Sellafield, mae’r storfeydd mwyaf sylweddol o wastraff ymbelydrol uwch ei actifedd mewn gorsafoedd pŵer niwclear.
Beth fydd yn mynd i mewn i’r GDF?
Cyn gynted ag y bydd Rhestr Gwastraff Ymbelydrol y DU (UKRWI) yn cael ei gyhoeddi, rydyn ni’n cymryd y set ddata ac yn dechrau ei chyfuno â gwybodaeth ychwanegol i greu’r Rhestr ar gyfer Gwaredu Daearegol (IDG).
Mae’n ddigon rhwydd drysu rhwng Rhestr y DU a Rhestr y GDF. Y prif wahaniaeth yw bod Rhestr Gwastraff Ymbelydrol y DU yn cynnwys pob math o wastraff ymbelydrol, tra bod y Rhestr ar gyfer Gwaredu Daearegol ddim ond yn cynnwys gwastraff rydyn ni’n credu fydd angen mynd i’r GDF. Felly i greu’r IGD, rydyn ni’n cymryd yr UKRWI ac yn tynnu unrhyw wastraff lefel isel a lefel isel iawn a fydd yn mynd i gael eu gwaredu’n ddiogel yn yr Ystorfa Gwastraff Lefel Isel, neu mewn safleoedd tirlenwi trwyddedig.
Yna rydyn ni’n cyrraedd y darn anodd. Mae GDF yn debygol iawn o gynnwys gwastraff sydd ddim yn ymddangos yn yr UKRWI eto. Mae peth o’r gwastraff hwn yn ddeunydd sydd eisoes yn bodoli ond sydd ddim yn cael ei ystyried yn wastraff (fel unrhyw danwydd sydd wedi cael ei ddefnyddio ond heb gael ei ailbrosesu), ac mae peth ohono heb gael ei gynhyrchu eto (fel gwastraff o orsafoedd pŵer niwclear newydd, fel yr un sy’n cael ei adeiladu ar hyn o bryd yn Hinkley Point C).
Rhan o waith fy nhîm yw cyfrifo faint fydd cyfanswm y gwastraff hwn erbyn i ni orffen y GDF.
Cynhwysfawr a thryloyw.
Daeth yr UKRWI diweddaraf allan ar ddechrau 2020, felly rydw i’n gweithio ar y rhestr GDF nesaf ar hyn o bryd. Mae’r data wastad yn cyflwyno gwybodaeth ddefnyddiol. Er enghraifft, pe baen ni’n rhoi'r gorau i gynhyrchu pŵer niwclear heddiw, ni fyddai’n lleihau faint o wastraff fydd yn mynd i’r GDF yn sylweddol. Ar sail y rhifau presennol, byddai tua 90% o gyfaint gwastraff GDF yn dod o orsafoedd niwclear sy’n gweithredu ar hyn o bryd, neu sydd eisoes wedi cau.
Yn ogystal, roedd cyfanswm cyfaint yr IDG diweddaraf yn llai na 10% o’r UKRWI cyfatebol. Mae’n braf gwybod mai dim ond ffracsiwn o wastraff y DU sy’n syrthio i’r categori uwch, sydd i fod i fynd i’r GDF.
Mae rhestrau gwastraff ymbelydrol y DU ymysg y rhai mwyaf tryloyw yn y byd. Mae gennyn ni ddefnydd ymarferol ar gyfer y IGD, i’n helpu ni i gynllunio ar gyfer GDF diogel ac effeithiol, ond mae’r IGD a’r UKRWI hefyd yn ddefnyddiol i unrhyw un sydd eisiau gwybod faint o wastraff ymbelydrol sydd yn y DU, lle mae’r gwastraff hwnnw, a sut rydyn ni’n bwriadu delio ag ef.
Recent Comments