Rydyn ni’n barod iawn i archwilio unrhyw ardaloedd sydd wedi’u nodi
Wrth i ni ddechrau trafod posibilrwydd cynnwys cyfleuster daearegol dwfn â’n Gweithgorau cyntaf a’r cymunedau ehangach o’u cwmpas, un o’r cwestiynau diddorol rydyn ni wedi dod ar eu traws yw a yw’n ymarferol adeiladu rhan danddaearol cyfleuster sy’n ddwfn o dan wely’r môr.
Yr ateb syml yw ‘ydy’ – os bydd Gweithgorau’n gofyn i ni edrych ar yr opsiwn hwn, rydyn ni’n barod iawn i archwilio unrhyw ardaloedd sydd wedi’u nodi, naill ai’n agos at yr arfordir neu’n ymestyn hyd at derfyn allanol 22km o ddyfroedd tiriogaethol y DU.
Mae’n bwysig pwysleisio y byddai angen ymchwiliadau pellach, llawer mwy manwl er mwyn deall a allai unrhyw feysydd fod yn bosibiliadau realistig, ac nid ydyn ni’n disgwyl cyrraedd y sefyllfa hon am nifer o flynyddoedd.
Ymchwilio i’r blynyddoedd
Mae archwilio addasrwydd creigiau sy’n ddwfn o dan wely’r môr oddi ar ein harfordir wedi bod yn ystyriaeth ers blynyddoedd lawer. Mae RWM yn cymryd rhan weithredol mewn gwaith ymchwil a fyddai’n llywio’r broses o wneud penderfyniadau yn y dyfodol os bydd lleoliad dan y môr yn dod o ddiddordeb i gymuned.
Mae nifer o astudiaethau eang wedi cael eu cynnal yn y DU a thramor, gan fod gwyddonwyr a pheirianwyr yn edrych yn gyntaf ar y ffordd orau o ddelio â’r gwastraff ymbelydrol sydd wedi cronni ers dechrau ymchwilio i dechnolegau sy’n hollti atomau yn ystod y blynyddoedd ar ôl y rhyfel.
Yn ystod degawdau cynnar arbrofi niwclear, roedd y ffocws ar wneud i’r dechnoleg weithio’n ddiogel ac yn effeithlon: ychydig iawn o sylw a roddwyd i ddatgomisiynu neu ddelio â’r cynnyrch gwastraff ymbelydrol yn y dyfodol. Ystyriwyd nifer o atebion yn y gorffennol, yn amrywio o waredu mewn llenni iâ, ar lawr y môr, toddi creigiau a thanio’r gwastraff i’r gofod.
Y peth iawn i’w wneud
Heddiw, mae safonau gwyddoniaeth ac amgylcheddol wedi datblygu, a’r ateb sy’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol ar gyfer gwastraff ymbelydrol yw gwaredu daearegol – oherwydd rydyn ni’n gwybod mai dyma’r peth iawn i’w wneud. Mae hyn yn cynnwys cyfleuster arwyneb ar y tir wedi’i gysylltu â chladdgelloedd a thwneli wedi’u peiriannu sy’n ddwfn o dan y ddaear. Gallai’r rhan o’r cyfleuster o dan y ddaear fod yn gyfan gwbl neu’n rhannol o dan wely’r môr.
Yn rhyngwladol, mae cynseiliau eisoes yn bodoli. Mae gan Sweden gyfleuster gwaredu ar gyfer Gwastraff Lefel Ganolraddol (ILW) 60 metr o dan lawr Môr y Baltig, a agorodd yn y 1980au. Mae’r diwydiant olew a nwy byd-eang wedi bod yn drilio’n ddwfn o dan wely’r môr ers degawdau. Meddyliwch hefyd am Dwnnel y Sianel neu Fwynglawdd Boulby ar arfordir dwyrain Lloegr sydd dros 1,000 metr o dan wely’r môr ac sy’n ymestyn tua 10 milltir oddi ar yr arfordir.
CGD sy’n ddwfn o dan wely’r môr
Ar gyfer y DU, byddai’n sicr yn werth ymchwilio i ddarpar CGD o dan wely’r môr oddi ar ein harfordir.
O safbwynt daearegol, nid oes llawer o wahaniaeth mewn gwirionedd rhwng CGD sydd wedi’i adeiladu mewn creigiau o dan y tir neu yn y creigiau o dan wely’r môr. Mae GDF yn bodoli i ynysu’r gwastraff o’r amgylchedd ar yr wyneb, ac ar yr amod bod yr amgylchedd daearegol cywir yn cael ei ddewis, nid yw’n gwneud fawr o wahaniaeth beth sy’n digwydd yn yr amgylchedd hwnnw ar yr wyneb – tir neu fôr. Yn y naill sefyllfa neu’r llall, mae dyfnder y graig uwchben yn sicrhau ei bod yn cael ei diogelu am filoedd lawer o flynyddoedd. Yr hyn sy’n gwbl glir yw er y gallai CGD gael ei adeiladu gannoedd o fetrau o dan wely’r môr, dydyn ni ddim yn mynd i waredu gwastraff ar wely’r môr ei hun.
O’i gymharu â CGD ar y tir, mae heriau ac ystyriaethau gwahanol, fel osgoi tarfu ar amgylcheddau morol yn ystod ymchwiliadau cychwynnol ac adeiladu. Byddai hefyd angen i ni gysylltu â set wahanol o randdeiliaid, fel y rheini yn y sectorau pysgota a morol.
Ond byddai ein blaenoriaethau’n aros yr un fath: diogelwch a gwarchodaeth, yn ogystal â chydymffurfio’n llawn â’r holl feini prawf rheoleiddio.
Mae CGD o dan wely’r môr hefyd yn debygol o fod angen gwelliannau seilwaith ar dir, efallai ehangu porthladd presennol neu adeiladu un newydd, a allai arwain at fanteision i gymuned leol.
Ymchwil ac ymgysylltu â chymunedau
Fodd bynnag, bydd yr ardaloedd chwilio yn cael eu diffinio gan y gweithgorau a bydd y gwaith o ddewis safle yn y pen draw, boed hynny ar dir neu o dan wely’r môr, yn cael ei ddylanwadu’n fawr gan y safbwyntiau a’r adborth a fynegwyd yn ystod ymgynghoriadau cymunedol lleol. Ac wrth gwrs, byddai angen ymchwilio’n drylwyr i safle a chadarnhau ei fod yn addas yn ddaearegol.
Yn y cyfamser, mae RWM wrthi’n archwilio’r holl ymchwil blaenorol sy’n ymwneud â gwaredu o dan wely’r môr, ac mae wedi comisiynu astudiaethau pellach i ddeall yn fanylach sut mae bwrw ymlaen ag ymchwiliadau daearegol, ynghyd â dylunio ac adeiladu cyfleuster tanddwr – os mai dyma beth mae gofyn i ni ei archwilio.
Bydd yr adroddiadau hyn yn ychwanegu at yr wybodaeth sydd eisoes ar gael ac yn helpu i gyfrannu at drafodaethau parhaus am leoliadau posibl ar y tir ac o dan wely’r môr. Edrychwn ymlaen at y canlyniadau!
Recent Comments