Skip to main content

https://nda.blog.gov.uk/dyddiadur-geek-gwyddonol-yn-ffair-big-bang/

Dyddiadur “Geek Gwyddonol” yn Ffair Big Bang

Posted by: , Posted on: - Categories: Research and development, Waste management

Mae’r blog yma yn bwrw golwg ar fy mhrofiadau ar stondin arddangos RWM yn Ffair Big Bang yn ystod dau ddiwrnod olaf y digwyddiad.

Wrth gyrraedd yr NEC ar fore heulog o fis Mawrth, do’n ni ddim yn siŵr iawn beth i'w ddisgwyl - o bosib dau ddiwrnod o wallgofrwydd llwyr! Fe gerddais i mewn i'r neuadd arddangos enfawr a ches i’n llethu’n syth gan yr holl weithgareddau. Ro’dd hi’n swnllyd, yn lliwgar, ro’dd digon o 'big bangs' yn llythrennol yn y cefndir. Ces i’n nharo gan y ffaith – pe bawn i yno fel disgybl ysgol – bydden ni wedi bod yn gyffro i gyd!

Dyma’r tro cyntaf i fi ymweld â ‘Ffair Big Bang' a’r tro cyntaf i RWM a'n rhiant-gwmni yr NDA hefyd. Roedd ein tîm wedi gweithio'n hynod o galed ar edrychiad y stondin a’r gweithgareddau STEM apelgar – roedd y cyfan yn edrych yn wych ac roedd popeth yn boblogaidd iawn!

Ffair Big Bang
Ffair Big Bang

Cafwyd darnau animeiddio ynglŷn ag ymbelydredd a gwaredu daearegol, deunydd rhith-realiti i fynd â phobl ar deithiau dychmygol o dan ddaear mewn cyfleuster gwaredu y dyfodol, siambr cwmwl, cypyrddau arddangos gwydr yn cynnwys enghreifftiau o greigiau a modelau 3D wedi’u hargraffu yn ogystal â chwisiau gwyddonol a gemau cardiau fflach i ddenu ymwelwyr.

Ewch ar daith 1Km o dan y ddaear, nifer o ddegawdau yn y dyfodol, i archwilio Cyfleuster Gwaredu Daearegol (GDF)

Ro’n ni’n teimlo mor falch wrth wisgo fy nghrys-t a bathodyn porffor RWM ac yn barod i fwrw ati i sgwrsio gyda llu  o feddyliau ifanc oedd yn cymryd diddordeb yn yr ‘ardal niwclear’, lle ro’n ni’n rhannu’r gofod gydag enwau mwyaf y diwydiant niwclear, fel yr NDA, Sellafield Ltd ac EDF Energy.

Pan ofynnwyd os oedden nhw wedi clywed am ymbelydredd neu wastraff ymbelydrol, roedd y rhan fwyaf o’r plant yn cyfeirio at Fukushima, Chernobyl a Kim Jong-Un hyd yn oed! Roedd rhai yn synnu bod rhywfaint o'u trydan yn dod wrth bŵer niwclear neu fod ymbelydredd naturiol o’n hamgylch drwy’r amser ac yn eu bwyd.

Er syndod, dywedodd nifer o blant eu bod nhw wedi clywed yn yr ysgol ynglŷn â gwaredu gwastraff ymbelydrol o dan ddaear (ces i’m mhlesio gyda hynny!) ac ro’n nhw wrth eu bodd yn gallu defnyddio sbectol rhith-realiti i ddod â’r cyfan yn fyw. Derbynies i nifer o gwestiynau am sment, beth yw ei gynhwysion, sut mae'n gweithio, pam mae radioniwclidiau'n 'glynu' ato. Dwi’n credu mod i wedi cwrdd ag ychydig gannoedd o arbenigwyr STEM y dyfodol yn Ffair Big Bang. A dim fi oedd yr unig un – ro’dd fy holl gydweithwyr RWM ar y stondin wedi cael profiadau tebyg iawn (ac wedi derbyn nifer o gwestiynau heriol hefyd!)

Amy Shelton - Capten Gyrfaoedd ar ein stondin

I goroni’r cyfan, ges i’r pleser o weithredu fel Capten Gyrfaoedd ar ein stondin – ro’dd hyn yn golygu gwisgo baner ar fy nghefn, dosbarthu sticeri ar gyfer y gystadleuaeth yrfaoedd a dweud straeon am fy mhrofiadau personol: fy ngradd mewn cemeg, fy PhD mewn radio-cemeg, y gefnogaeth ariannol a dderbyniais gan RWM ac yna fy swyddi o fewn y timau Manylebau ac Ymchwil.
Felly sut alla i grynhoi fy Ffair Big Bang gyntaf erioed? Dau ddiwrnod gwych a gwerth chweil, a buddsoddiad yn y dyfodol ar gyfer RWM. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at ddychwelyd flwyddyn nesaf – mae’r gwaith cynllunio’n dechrau’n barod!

Sharing and comments

Share this page