Skip to main content

Paratoi’r achos ar gyfer diogelwch Cyfleuster Gwaredu Daearegol

Posted by: , Posted on: - Categories: International activities, Research and development, Waste management

O fewn RWM mae yna is-grwpiau a thimau gwahanol. Dwi’n ffisegydd siartredig, a fy ngwaith i yw dangos na fydd Cyfleuster Gwaredu Daearegol (GDF) yn achosi niwed i bobl na'r amgylchedd. Mae gwaredu daearegol yn cynnwys ynysu a gosod gwastraff ymbelydrol mewn daeargelloedd a thwneli, yn ddwfn o dan ddaear, rhwng 200m a 1000m o dan yr wyneb. Mae hyn yn atal ymbelydredd rhag cyrraedd yr wyneb mewn lefelau a allai achosi niwed. Caiff gwastraff ymbelydrol solet ei becynnu mewn cynwysyddion diogel sydd wedi’u peiriannu, a wneir fel arfer o fetel neu goncrid, a'u gosod mewn ffurfiant creigiau sefydlog, gyda'r cynwysyddion wedi'u hamgylchynu gan glai neu sment. Gelwir hyn yn ddull aml-rwystr.