Skip to main content

https://nda.blog.gov.uk/paratoir-achos-ar-gyfer-diogelwch-cyfleuster-gwaredu-daearegol/

Paratoi’r achos ar gyfer diogelwch Cyfleuster Gwaredu Daearegol

Posted by: , Posted on: - Categories: International activities, Research and development, Waste management

Pan fyddai’n dweud wrth bobl fy mod i'n gweithio yn y sector niwclear, mae camdybiaeth ei bod hi’n amhosibl gwaredu gwastraff niwclear yn ddiogel.

Dyna lle mae RWM yn rhan o bethau. Ry’n ni’n grŵp o bobl dechnegol talentog ac arbenigwyr o safon byd – ein swydd a’n prif flaenoriaeth yw cadw'r DU yn ddiogel rhag gwastraff niwclear. O fewn RWM mae yna is-grwpiau a thimau gwahanol. Dwi’n ffisegydd siartredig, a fy ngwaith i yw dangos na fydd Cyfleuster Gwaredu Daearegol (GDF) yn achosi niwed i bobl na'r amgylchedd. Mae gwaredu daearegol yn cynnwys ynysu a gosod gwastraff ymbelydrol mewn daeargelloedd a thwneli, yn ddwfn o dan ddaear, rhwng 200m a 1000m o dan yr wyneb. Mae hyn yn atal ymbelydredd rhag cyrraedd yr wyneb mewn lefelau a allai achosi niwed. Caiff gwastraff ymbelydrol solet ei becynnu mewn cynwysyddion diogel sydd wedi’u peiriannu, a wneir fel arfer o fetel neu goncrid, a'u gosod mewn ffurfiant creigiau sefydlog, gyda'r cynwysyddion wedi'u hamgylchynu gan glai neu sment. Gelwir hyn yn ddull aml-rwystr.

Y cysyniad aml-rwystr

Mae achos diogelwch GDF yn gyfres o ddogfennau, sydd ar gael i bawb eu darllen (hyperlink) ac mae'n cwmpasu pob agwedd ar ddiogelwch - sut byddwn yn adeiladu'r GDF yn ddiogel, ei lenwi â gwastraff ymbelydrol, ei selio a sut gallwn fod yn siŵr y bydd yn ein cadw’n ddiogel wrth i’r ymbelydredd wanhau i lefelau isel iawn. Ac nid diogelwch mewn theori yn unig, neu pan fyddwn yn ei adeiladu, neu am 10 mlynedd ar ôl i ni ei selio, ond am gannoedd o flynyddoedd i'r dyfodol!

Felly sut ry’n ni'n gwneud hyn? Wel, mae'n cymryd llawer o waith caled a llawer o bobl o bob math o gefndiroedd. Ry’n ni’n gweithio gyda daearegwyr a hydro-ddaearegwyr, peirianwyr a mathemategwyr, yn ogystal â chemegwyr a ffisegwyr.

Mae’r ffaith bod gan wledydd o amgylch y byd wastraff i’w waredu yn golygu y gallwn gydweithio a dysgu wrth ein gilydd i sicrhau safonau diogelwch byd-eang. Mae’r rhan fwyaf o wledydd yn cytuno mai’r ateb parhaol mwyaf diogel i reoli gwastraff ymbelydrol uwch yw gwaredu daearegol. Dyma'r dull sydd eisoes wedi’i ddewis yng Nghanada, y Ffindir, Ffrainc, Sweden a'r Swistir. Mae rhai o'r gwledydd hyn wrthi’n datblygu eu GDF eu hunain. Rwy'n falch o ddweud bod Prydain yn cael ei ystyried yn un o'r prif wledydd ym meysydd gwaredu gwastraff a diogelwch. Mae hyn wedi rhoi cyfle i fi deithio’n helaeth ers ymuno â’r sefydliad oedd yn rhagflaenu’r RWM yn 1995, a dwi’n ddigon ffodus o fod wedi cael y cyfle i gadeirio’r Grŵp Integreiddio ar gyfer yr Achos Diogelwch (IGSC), grŵp o arbenigwyr diogelwch rhyngwladol. Ry’n ni’n cyfarfod unwaith y flwyddyn, eleni yn Rotterdam, gyda gwyddonwyr o bob cwr o'r byd. Mae gennym grwpiau o’r enw 'Clay Club' a 'Salt Club' a’u gwaith nhw yw sicrhau bod y GDF yr un mor ddiogel ym mhob math o graig, yn ogystal â grŵp arbenigol ar ddiogelwch gweithredol.

Lucy Bailey - OECD conference centre, Paris

Mae'r cyfarfodydd hyn yn gyfle gwych i gyfuno a rhannu syniadau, gwybodaeth a safonau rhwng gwledydd. Enghraifft berffaith o hyn yw prosiect cronfa ddata FEP yr Asiantaeth Ynni Niwclear. Gall 'FEP' fod yn unrhyw nodwedd, digwyddiad neu broses (mewn geiriau eraill, unrhyw beth a allai ddigwydd) a allai effeithio ar ddiogelwch y GDF mewn unrhyw ffordd. Mae pob gwlad yn cyfrannu ac yn cytuno arnyn nhw, er mwyn gwneud yn siŵr nad ydym yn colli unrhyw beth pwysig.  Mae’r rhan fwyaf yn defnyddio’r gronfa ddata hon fel sail ar gyfer eu hachos diogelwch.

Mae RWM yn chwarae rhan ganolog yn y grwpiau hyn ac ar flaen y gad, gan wthio’n gyson gydag ymchwil a syniadau newydd. Eleni, dwi’n falch iawn o allu dweud ein bod yn noddi'r digwyddiad yn Rotterdam, a dwi’n edrych ymlaen at weld sut y gallwn ddatblygu ein syniadau drwy gydweithio â phawb sy’n mynychu.

Dwi’n teimlo ein bod ni'n ffodus iawn yn y RWM i gael swydd sy'n heriol yn ddeallusol, yn hanfodol bwysig ac yn hynod o werth chweil. Dwi wrth fy modd yn rhannu fy mhrofiadau drwy'r blog yma, a byddaf yn postio'r newyddion diweddaraf ar ddiogelwch ac unrhyw ddatblygiadau pellach, er mwyn i chi weld beth dwi’n gwneud.

Yn y cyfamser, os ydych chi eisiau dysgu mwy am GDF, neu am ragor o wybodaeth, mae croeso i chi ymweld â'n gwefan.

Sharing and comments

Share this page