Skip to main content

https://nda.blog.gov.uk/sut-mae-gwastraff-ymbelydrol-yn-edrych/

Sut mae gwastraff ymbelydrol yn edrych

Pan ydych yn clywed am “wastraff ymbelydrol”, pa ddelweddau sy’n dod i’ch meddwl?

Mae gwastraff ymbelydrol i’w weld mewn sawl ffordd. Ond er gwaetha’r hyn mae rhai rhaglenni teledu eisiau i chi ei gredu, yn sicr nid yw’n edrych fel casgenni llawn llysnafedd gwyrdd.  Mae hylif yn gallu cael ei golli neu ei ollwng, felly er mwyn diogelu pobl a’r amgylchedd, nid yw gwastraff ymbelydrol byth yn cael ei waredu ar ffurf hylif.

Gwastraff lefel isel

Pan fydd yn cael ei greu, gall gwastraff ymbelydrol lefel isel edrych fel nifer o bethau, gan gynnwys pridd, rwbel, metel sgrap, papur a dillad.

Y rheswm dros hyn yw bod gwastraff lefel isel yn golygu unrhyw ddeunydd gwastraff sy’n cynnwys lefelau cymharol isel o ymbelydredd. Felly mae rhywfaint o’r pridd a'r deunyddiau adeiladu sy’n weddill ar ôl y gwaith o ddymchwel cyfleuster niwclear yn wastraff lefel isel. Yn ogystal â rhai eitemau o ddillad amddiffyn mae pobl wedi’u gwisgo ar safleoedd niwclear neu mewn labordai ymbelydredd mewn ysbytai neu brifysgolion.

Mewn cyfleuster storio neu waredu gwastraff ymbelydrol, mae pecynnau gwastraff lefel isel yn edrych yn llai cyfarwydd. Y rheswm am hyn yw ein bod, er mwyn ei wneud yn ddiogel, yn rhoi gwastraff ymbelydrol lefel isel mewn cynwysyddion metel, ac wedyn yn eu llenwi â sment. Felly, yr unig beth fyddech chi’n ei weld fyddai pentwr o flychau metel, ychydig yn debyg i gynwysyddion cludo.

Gwastraff lefel ganolradd

Mae rhai gwastraff ymbelydrol lefel ganolraddol ar ffurf brics graffit, ac mae rhai’n edrych fel peiriannau wedi’u datgymalu.

Mae’r rhan fwyaf o wastraff lefel ganolraddol yn ddeunydd o’r tu mewn i adweithydd niwclear, sy’n golygu ei fod wedi bod mewn cysylltiad agos â thanwydd niwclear ymbelydrol iawn dros gyfnod hir.

Mewn adweithydd niwclear, mae rhodenni tanwydd yn cynhesu hylif i gynhyrchu pŵer. Mae brics graffit yn helpu i gynnal adwaith y gadwyn sy’n gwneud y rhodenni tanwydd yn boeth.

Mae brics graffit o graidd yr adweithydd a chydrannau eraill o adweithyddion sydd wedi’u datgomisiynu yn wastraff ymbelydrol lefel ganolraddol. Er mwyn ei gwneud yn ddiogel i storio, rydyn ni’n gosod gwastraff lefel ganolraddol mewn drymiau neu flychau dur gwrthstaen, fel arfer ar ôl ei dorri i’w wneud yn llai ac yn haws ei becynnu. Mae’r rhan fwyaf o’r rhain yn ddrymiau 500 litr, fel croes rhwng drwm olew a chan llaeth, ond wedi’u gwneud o ddur gwrthstaen sgleiniog. Yna, byddwn yn llenwi’r cynwysyddion hyn â sment.

Illustration of Intermediate Level Waste mixed with cement

Gwastraff lefel uchel

Pan fydd llawer o’n rhodenni tanwydd niwclear wedi cael eu defnyddio, byddan nhw’n cael eu hailgylchu neu eu hailbrosesu. Sgil-gynnyrch yr ailbrosesu hwn yw hylif ymbelydrol iawn. Fel y dywedais, nid ydyn ni’n gwaredu gwastraff ymbelydrol ar ffurf hylif, felly rydyn ni’n ei gymysgu â silica ac yn caniatáu iddo droi’n solid, proses o’r enw gwydreiddio. Y canlyniad yw bloc o wydr tywyll, du bron.

Mae cyswllt â gwastraff lefel uchel yn hynod o beryglus, felly rydyn ni’n cymryd gofal mawr i amddiffyn pobl rhag hynny. Mae’r broses gwydreiddio’n cael ei drin gan robotiaid sy’n cael eu rheoli o bell, felly does neb yn gorfod mynd yn agos at y gwastraff. Dim ond drwy gamerâu neu wydr trwchus iawn rydych chi’n ei weld, a hyd yn oed wedyn, dydych chi ddim yn gweld y gwastraff ei hun fel arfer. Yr hyn a welwch yw’r cynhwysydd.

Rwyf wedi ymweld â safle niwclear Sellafield, lle mae storfa o’r cynwysyddion hyn o dan gap concrid trwchus. Oherwydd y broses gwydreiddio, y cynwysyddion a’r concrit, mae’n ddiogel cerdded ar y cap, a phan fyddwch yn gwneud hynny, gallwch deimlo cynhesrwydd ysgafn drwy eich esgidiau diogelwch. Y rheswm am hyn yw bod gwastraff lefel uchel yn cynhyrchu gwres.

Cael gwared ar wastraff yn ddiogel

Mae dros 90 y cant o gyfaint y gwastraff ymbelydrol a gynhyrchir yn y DU mewn dros 60 mlynedd yn wastraff lefel isel. Mae hyn eisoes yn cael ei waredu’n ddiogel yn y Storfa Gwastraff Lefel Isel yn Cumbria neu mewn cyfleusterau trwyddedig eraill sydd wedi’u dynodi’n arbennig.

Mae’r gweddill yn cael ei storio’n ddiogel ar hyn o bryd mewn dros 20 o wahanol gyfleusterau ledled y DU. Os caiff y gwastraff lefel ganolig a lefel uchel hwn ei gadw yn y cyfleusterau hyn am gyfnod amhenodol, bydd angen ei ailbecynnu yn y pen draw, sy’n broses cynnil a chostus. Ac mae angen monitro’r cyfleusterau eu hunain yn gyson a’u cynnal a’u cadw’n rheolaidd ac yn barhaus.

Y bwriad yw gwaredu’r gwastraff hwn yn ddiogel ac yn barhaol drwy ei drosglwyddo i Gyfleuster Gwaredu Daearegol (GDF): rhwydwaith o gladdgelloedd a thwneli sydd wedi’u hadeiladu gannoedd o fetrau o dan y ddaear mewn creigiau solet. Bydd hyn yn sicrhau na fydd lefelau niweidiol o ymbelydredd byth yn cyrraedd yr wyneb.

radioactive waste immobilised in grout

Sharing and comments

Share this page