Gan y bydd gwastraff ymbelydrol actifedd uwch yn parhau yn beryglus i iechyd dynol am amser hir, o bosibl y tu hwnt i Oes yr Iâ nesaf, mae ei waredu yn ddiogel yn gyfrifoldeb cymdeithasol ac yn her wyddonol unigryw fel ei gilydd.
O gwmpas y byd, cytunir mai’r ateb hirdymor gorau ar gyfer gwastraff ymbelydrol actifedd uchel yw ei becynnu a’i osod mewn Cyfleuster Gwaredu Daearegol (GDF): cyfres o gromgelloedd neu dwneli wedi’u hadeiladu i safon uchel ac wedi’u gosod sawl can metr o dan y ddaear.
Wrth gynllunio ar gyfer GDF, beth yw’r mathau o bethau yr ydym yn eu hystyried ac yn eu gwneud er mwyn sicrhau bod GDF yn ddiogel?
Pwysigrwydd daeareg
Er mwyn sicrhau nad yw lefelau niweidiol o ymbelydredd yn dod i’r wyneb, rydym ni angen diogelu yn erbyn dau beth: deunydd ymbelydrol sy’n cael ei gludo mewn llifyddion (dŵr neu nwy) neu rywun sy’n palu i mewn iddo er mwyn cael ato.
Mae’n rhaid inni ystyried y materion hyn wrth inni gynllunio lle i leoli GDF. Rydym yn chwilio am leoedd lle mae llifyddion yn symud yn araf iawn, os o gwbl, ac mae hynny’n golygu canfod un o dri math cyffredinol o graig – craig galed, fel gwenithfaen, clai a chreighalen (halen craig) – sydd o bosibl yn addas fel creigiau lletyol.
Rydym yn ffodus fod pob un o’r tri math hwn o graig yn gyffredin drwy Gymru a Lloegr.
Yn ogystal, rydym yn dymuno cael amgylchedd sy’n ddaearegol sefydlog. Yn y DU, rydym wedi cael ein bendithio â daeareg sefydlog, o’i gymharu â llawer o leoliadau eraill o gwmpas y byd. Nid ydym ni wrth ymyl unrhyw ffiniau platiau allweddol na llosgfynyddoedd byw ac nid ydym yn dueddol o gael daeargrynfeydd sylweddol.
Er mwyn profi i’n hunain ac i eraill bod pobl a’r amgylchedd yn parhau yn ddiogel, mae’n rhaid inni ddangos ein bod yn deall sut mae’r holl ddeunyddiau a’r cydrannau mewn GDF yn gallu newid dros amser.
Rydym yn dechrau yn y labordy, gan sicrhau ein bod yn deall y prosesau sylfaenol: pa fath o arwynebeddau craig sy’n trapio deunyddiau ymbelydrol, sut mae llifyddion yn symud drwy wahanol arwynebeddau’r graig. Rydym wedi bod yn ymchwilio yn y DU a thramor am 35 mlynedd, sydd wedi rhoi sylfaen wyddonol dda iawn inni. Yn ogystal, rydym hefyd yn ymchwilio yn y maes. Yn aml, rydym yn gweithio mewn labordai ymchwil tanddaearol mewn ogofâu o graig a gloddiwyd. Yn ogystal, rydym yn edrych ar enghreifftiau mewn natur, sy’n ein helpu i roi gwybodaeth inni am y tymor hir iawn.
Y pecynnu gwastraff y tu ôl i ddiogelwch hirdymor y GDF
Ochr yn ochr â rhwystrau daearegol naturiol, mae peirianneg ddynol hefyd yn darparu lefelau ychwanegol o amddiffyniad diogelwch.
Er enghraifft, bydd gwastraff ymbelydrol Lefel Uchel ar gyfer GDF yn cael ei wydroli – ei droi yn wydr – cyn cael ei waredu, fel na fydd unrhyw hylifau peryglus yn y GDF a allai dywallt neu ollwng.
Mae gwydr yn ffurf ganolraddol – strwythur sy’n debyg i gel. Drwy edrych ar samplau o wydr o wahanol oesoedd, gallwn ddeall sut y bydd yn crisialu yn raddol a beth y gall hynny ei wneud i unrhyw ymbelydredd sydd wedi’i drapio ynddo dros y math o amser sy’n berthnasol inni.
Rydym wedi cynnal astudiaethau yn y labordy, yn ogystal ag edrych ar wydr naturiol, a all ffurfio o dan y ddaear mewn rhai amgylcheddau daearegol. Rydym ni hyd yn oed wedi astudio samplau gwydr o’r hen Aifft, a wnaed filoedd o flynyddoedd yn ôl, er mwyn gweld sut allai’r gwastraff a wydrolwyd edrych filoedd o flynyddoedd o’r cyfnod presennol.
Bydd gwastraffau eraill wedi cael eu selio mewn sment. Rydym wedi edrych ar sment yn y labordy, wedi cynnal treialon tywallt ar raddfa lawn ac wedi astudio strwythurau concrit hynafol yn ogystal â chreigiau sment mewn natur.
Mae’r gwastraff solet yn cael ei roi mewn cynwysyddion diogel sydd wedi cael eu hadeiladu i safon uchel ac wedi cael eu gwneud o goncrit neu fetel. Ar ôl i GDF gael ei gau, mae’r cynwysyddion hyn yn darparu rhwystr ffisegol sy’n atal neu’n cyfyngu rhyddhau’r ymbelydredd. Gall cynhwysydd gael ei gynllunio i bara am ychydig gannoedd o flynyddoedd at ddegau o filoedd o flynyddoedd, gan ddibynnu ar y math o wastraff y mae’n ei gynnwys.
Mae’r cynwysyddion yn cael eu gosod ar ffurfiant craig sefydlog gannoedd o fetrau yn is na’r wyneb, wedi’u hamgylchynu â chlai, mwy o sment neu graig wedi’i gwasgu. Gelwir hwn yn ‘ddull aml-rwystr’.
Swyddogaeth y rheoleiddwyr annibynnol
Bydd GDF yn cael ei adeiladu dim ond os gellir dangos ei fod yn ddiogel.
Os nad yw rheoleiddwyr diogelwch ac amgylchedd niwclear annibynnol ym meddwl ei fod yn ddiogel i bobl a’r amgylchedd, yn awr ac yn y dyfodol fel ei gilydd, yna ni fydd yn cael ei adeiladu.
Rydym yn casglu’r dystiolaeth o’r holl astudiaethau hyn i gyfres o ddogfennau a elwir yn achos diogelwch. Mae’r rhain yn dangos ein bod yn deall diogelwch, ac y gallwn ni amlinellu ein tystiolaeth allan o gyfres lawn o ffynonellau.
Mae’r dystiolaeth hon yn cael ei harchwilio gan dimau o arbenigwyr sy’n cynnwys staff o’r rheoleiddwyr perthnasol (Y Swyddfa dros Reoli Niwclear ac Asiantaethau’r Amgylchedd) yn ogystal â’u harbenigwyr annibynnol. Pan mae’r rheoleiddwyr yn fodlon, byddan nhw’n rhoi’r caniatadau perthnasol inni symud ymlaen ac adeiladu GDF.
Bydd GDF yn gyfleuster a drwyddedir fel safle niwclear, ac felly o’r eiliad yr ydym yn dechrau gweithio ar y safle, mae’n rhaid iddo gwrdd â’r un safonau diogelwch llym a’r drefn archwilio â gorsaf ynni niwclear, labordy ymchwil neu unrhyw gyfleuster niwclear arall. Mae gan y rheoleiddwyr niwclear lawer o rym: gallan nhw arolygu unrhyw weithrediad heb rybudd a gallan nhw fynnu rhoi terfyn ar weithrediadau os oes unrhyw beth nad yw’n cyrraedd y safon gywir.
Drwy ymchwil gadarn a thrylwyr, a thrwy weithio yn agos â’r rheoleiddwyr, byddwn yn sicrhau bod pobl a’r amgylchedd yn derbyn y lefelau cywir o ddiogelwch.
Er mwyn archwilio’r testun o ddiogelwch hirdymor GDF, rydym hefyd wedi cynhyrchu fideo animeiddiedig – gallwch chi ei wylio yma.
Recent Comments