Fe ddechreuais i fel Prif Ymgynghorydd Gwyddonol i Radioactive Waste Management yn 2011, ond fe ddechreuais i weithio ar raglen gwaredu daearegol y DU pan oeddwn i’n dechrau fy ngyrfa yng nghanol yr 1980au. Yn ystod y cyfnod hwn roeddwn i’n gweithio yn y maes rhaglennu cyfrifiaduron, ac roedd Awdurdod Ynni Atomig y DU (UKAEA) yn sefydlu grŵp ymchwil ar waredu daearegol.
Rwy’n meddwl mai gan Academi’r Gwyddorau yn UDA nôl yng nghanol y 1950au yr ysgrifennwyd y papur cynharaf ar waredu daearegol. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd y maes niwclear yn canolbwyntio’n helaeth ar gynhyrchu ynni neu gynhyrchu arfau - wedi’r cyfan roedd y Rhyfel Oer yn ei anterth. Chafodd y gwaith o reoli’r gwastraff yn y tymor hir a ddaeth o ganlyniad i hynny fawr o sylw.
Yr hyn a amlygodd y mater fel un difrifol oedd papur a ysgrifennwyd gan y Comisiwn Brehninol ar Lygredd Amgylcheddol ym 1976. Ei enw oedd Adroddiad Flowers, ar ôl ei gadeirydd, Syr Brian Flowers. Roedd yn nodi bod angen rheoli’r gwastraff ac y byddai’n anghyfrifol ymrwymo i geisio lledaenu cynhyrchu ynni niwclear ar raddfa sylweddol nes y gellid dangos heb amheuaeth y byddai modd delio â’r gwastraff. Cynigiwyd gwaredu daearegol fel ffordd dderbyniol o reoli gwastraff ar gyfer y tymor hir.
Gweithio o gartref
Fe wnes i ddechrau gweithio yn y maes gwaredu gwastraff ymbelydrol drwy gyfarfod â rhywun mewn grŵp mam a’i phlentyn (mae gen i bedwar o blant). Fe wnes i gwrdd â menyw yno ac roedd ei gŵr yn sefydlu grŵp ymchwil UKAEA ac yn chwilio am bobl gyda sgiliau cyfrifiadura. Roedd yn arloeswr yn ystod y 1980au oherwydd ei fod yn fodlon fy nghyflogi i weithio’n rhan-amser ac roedd hefyd yn cefnogi gweithio’n hyblyg.
Fe wnaethon nhw osod cyfrifiadur gartref i mi a oedd wedi’i gysylltu â’r prif gyfrifiadur yn Harwell – sefydliad ymchwil ynni atomig cyntaf y DU. Fe wnaethon nhw hynny drwy gysylltiad ffôn gyda chyflymder trawsyrru o 110 did fesul eiliad. Fe sylweddolodd fy mab hynaf, a oedd yn flwydd oed ar y pryd, yn eithaf sydyn sut oedd hawlio sylw ei Fam, a hynny drwy bwyso botwm chwith ar waelod y bysellfwrdd – sef Ctrl -Z, a byddai hynny’n datgysylltu’r llinell.
Roedd llawer o fy ngwaith cynnar yn cynnwys modelu sut y byddai posib i ddeunydd ymbelydrol dreiddio yn ôl i fyny i arwyneb yr amgylchedd, dros gyfnod hir, o gyfleuster gwaredu yn ddwfn o dan y ddaear. Pan ddaeth y rhaglen yn fwy llewyrchus, fe gefais innau fwy o gyfrifoldebau.
Diogelu ar gyfer y genhedlaeth nesaf
Mae cael bod yn rhan o brosiect fydd yn gallu gwneud gwahaniaeth wedi bod yn bwysig iawn i mi. Mae gwastraff niwclear yn rhywbeth sy’n bodoli, ac rydyn ni angen ei reoli i ni ein hunain ac i genedlaethau’r dyfodol. Mae’n broblem ddyrys, sy’n golygu meddwl am bethau ar raddfa ficrosgopig a deall sut bydd ardaloedd daearegol cyfan yn newid dros gannoedd a miloedd o flynyddoedd. Dyna sy’n gwneud y gwaith mor ddiddorol.
Mae nifer o ddulliau gwaredu gwastraff eraill wedi cael eu cyflwyno dros y blynyddoedd, ond gwaredu daearegol yw’r unig ateb y gallwn ni ei roi ar waith ar hyn o bryd. Mae’n ein galluogi ni i gymryd cyfrifoldeb moesol, gan sicrhau diogelwch ar gyfer y tymor hir heb i genedlaethau’r dyfodol orfod wynebu’r peryglon parhaus sydd ynghlwm â rheoli gwastraff gweithredol. Pan fydd y gwastraff hwn wedi cael ei waredu o dan y ddaear ac mae’r cyfleuster wedi cael ei selio, bydd yn aros yn ddiogel heb orfod ymyrryd yn barhaus.
Mae fy nghenedlaeth i, y rhai ohonon ni a ddaeth i’r maes hwn yn y 1980au, wrth i raglenni gwaredu daearegol ddechrau ffynnu o amgylch y byd, yn nesáu at oedran ymddeol. Ar draws y byd, mae ymdrechion mawr i geisio trosglwyddo’r awenau i’r genhedlaeth nesaf. Rwyf yn gweithio’n agos â fy nghydweithiwr Robert Winsley, sy’n Uwch Ymgynghorydd Gwyddonol i RWM, er mwyn sicrhau y gallwn wireddu hynny.
A dweud y gwir rwyf wedi mynd heibio’r oedran lle gallwn i fod wedi ymddeol. Ond rwy’n mwynhau’r hyn rwyf yn ei wneud ormod.
Recent Comments