Yr wythnos diwethaf, aethom i dref heulog Brighton, cartref y pier enwog, llawer o gynadleddau pleidiau, a Chyngres flynyddol yr Undebau Llafur (TUC).
Mae’n bwysig i RWM ei fod yn ymgysylltu â chynulleidfaoedd allweddol o'r diwydiant a’r undebau oherwydd rydym yn ceisio canfod safle addas a chymuned barod ar gyfer Cyfleuster Gwaredu Daearegol. Dyma'r tro cyntaf i ni fynychu’r TUC, a bu ein tîm yn gweithio’n galed am fisoedd lawer yn cynllunio ein presenoldeb yn yr arddangosfa ac mewn digwyddiad ar y cyrion.
Buom yn siarad gyda llawer o bobl, ac yn gwrando ar wahanol farn, gan ddysgu llawer beth sy'n bwysig i undebau, tra roeddem ninnau’n gallu cyfleu ein safbwynt ni. Talodd y gwaith caled ar ei ganfed, oherwydd rydym wedi cael llawer mwy o ddealltwriaeth o safbwyntiau gwahanol y gynulleidfa am y prosiect hollbwysig hwn i ddiogelu'r amgylchedd.
Byd y TUC
Bydd llawer o bobl wedi gweld uchafbwyntiau Cyngres y TUC ar y teledu. Mae’n ddigwyddiad cenedlaethol sydd â phroffil uchel, ac mae’n denu rhyw 600 o gynrychiolwyr o 48 o undebau cyswllt i drafod a dadlau ynghylch cynigion, pleidleisio am faterion y TUC, a mynd i’r afael â materion sy’n wynebu gweithwyr nawr ac yn y dyfodol, a phynciau cymdeithasol ac economaidd pwysig.
Gyda rhyw 3,000 o ymwelwyr yn dod bob dydd, mae’r TUC yn rymus yn wleidyddol ac o ran y cyfryngau, fel achlysur mawr ar ddiwedd yr haf a chyn cynadleddau'r pleidiau. Nid oedd eleni’n ddim gwahanol. Cafwyd agenda lawn yn delio â materion pwysig y dydd – Brexit, yr economi, trafnidiaeth, symudedd cymdeithasol, yr agenda cydraddoldeb a llawer mwy.
Beth am siarad am Waredu Daearegol?
Mae’r RWM wedi cael perthynas hir gyda’r undebau llafur, a hynny yn ei rinwedd ei hun a thrwy ei riant-gwmni, sef yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear (NDA).
Roedd stondin RWM yn gyfle i ni gwrdd a siarad â’r cynrychiolwr ac i ddechrau sgwrs am waredu daearegol a rheoli gwastraff ymbelydrol ar gyfer y tymor hir. Daeth pobl i’n stondin i siarad gyda chydweithwyr RWM ynglŷn ag amrywiaeth eang o faterion – am bolisi, y broses leoli, daeareg, a beth allai cyfleuster gwaredu daearegol ei olygu i gymuned.
Roedd llawer o bobl yn chwilfrydig am ein gwaith, a beth oedd pwrpas prosiect cyfleuster gwaredu daearegol. Roedd rhai pobl yn gwybod llawer, a rhai eraill yn gwybod fawr ddim. Fe wnaeth ein tîm o arbenigwyr ddelio’n wych gyda’r amrywiaeth o safbwyntiau. Rydym yn ffyddiog fod pawb wedi mynd oddi yno yn gwybod mwy, hyd yn oed oes nad oeddent bob amser wedi newid eu meddyliau yn llwyr!
Sicrhau bod Gwaredu Daearegol yn rhywbeth hygyrch
Mae gwaredu daearegol yn bwnc cymhleth ac mae sicrhau ei fod yn hygyrch yn fater canolog i’n cyfathrebiadau. Mae gennym offer ac adnoddau i’n helpu i wneud hyn.
Mae ein teclyn Rhithrealiti yn mynd â’r ymwelydd ar daith rithiol o gwmpas storfa dan ddaear, gan ddod â chyfleuster gwaredu daearegol yn fyw: sut mae’r cyfleuster yn cael ei adeiladu, sut mae gwastraff yn cael ei becynnu a’i waredu, felly mae’n helpu i egluro rhywbeth sy’n aml heb gael ei ddeall yn iawn.
Cafodd cwestiynau am ddaeareg eu hateb drwy fynd i’n rhaglen Sgrinio Daearegol Cenedlaethol ar-lein i weld rhanbarth neu is-ranbarth ddaearegol yn fanylach er mwyn canfod ei nodweddion a pha mor addas yw hi ar gyfer cyfleuster gwaredu daearegol.
Fe wnaethom ni ddangos ein fideos newydd ar waredu daearegol, a oedd yn cyflwyno cenhadaeth RWM ac yn defnyddio diwyg animeiddiedig hygyrch i ddangos ein ffordd ni o ymgysylltu â’r gymuned. Roedd ein llyfryn ‘Cyflwyniad i Waredu Daearegol’ mor boblogaidd ag erioed ymysg mynychwyr y Gyngres, fel canllaw hawdd ei ddarllen ar y pwnc.
Roedd uchafbwyntiau’r arddangosfa yn cynnwys ymweliad â stondin RWM gan Frances O’Grady Ysgrifennydd Cyffredinol TUC, ac ar y diwrnod olaf roeddem yn falch iawn o groesawu Mike Clancy, Cyfarwyddwr Cyffredinol a Sue Ferns, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol Prospect.
Mynd i galon y materion
Mae Cyngres y TUC hefyd yn cynnal llawer o ddigwyddiadau ymylol yn ystod y pedwar diwrnod, gan ddelio ag amrywiaeth o bynciau. Cymerodd RWM ran mewn digwyddiad ymylol dan ofal TUSNE ar y cyfleuster gwaredu daearegol: ‘Radioactive Waste: Delivering Geological Disposal’ .
Roedd y digwyddiad yn cael ei gadeirio gan Dai Hudd, cyn-Ddirprwy Ysgrifennydd Cyffredinol Prospect, ac roedd y panel yn cynnwys cynrychiolaeth undebol gref gan Peter McIntosh, Swyddog Cenedlaethol Unite a Jez Stewart, Swyddog Negodiadau o Prospect. Darparwyd persbectif gwyddonol annibynnol gan Dr Claire Corkhill o Brifysgol Sheffield, ac roedd RWM yn cael ei gynrychioli gan John Corderoy, Cyfarwyddwr y Rhaglen ac aelod o Fwrdd RWM.
“A Game Changer for a Region”
Yn dilyn cyflwyniadau gan y Cadeirydd, fe wnaeth John Corderoy ddechrau ar y panel gyda throsolwg o raglen y GDF, gan nodi'r manteision tymor hir a ddaw i gymuned gyda chyfleuster gwaredu daearegol, gan ddweud y byddai’n newid pethau’n llwyr i ranbarth. Bu cynrychiolwyr o Unite a Prospect yn siarad am yr hyn y gallai cyfleuster gwaredu daearegol ei olygu i’w haelodau a’u cymunedau, i'r sector niwclear yn gyffredinol, a hefyd i'r genhedlaeth nesaf o weithwyr. Rhoddodd Dr Claire Corkhill drosolwg o waredu daearegol, fel yr ateb hirdymor gorau sy'n cael ei gydnabod yn rhyngwladol i reoli gwastraff ymbelydrol. Bu’r panel hefyd yn rhannu argraffiadau o’r hyn sy'n digwydd mewn gwledydd eraill, fel y Ffindir a Sweden, sydd wrthi’n datblygu storfeydd dan ddaear.
Roedd y digwyddiad ymylol yn ffordd wych o gael y gynulleidfa i siarad ac i drafod y materion sydd o bwys iddyn nhw. Daeth llawer o gynrychiolwyr o ddiwydiannau ac undebau, gan gynnwys Tony Burke, Ysgrifennydd Cyffredinol Cynorthwyol Unite the Union, a hefyd corff anllywodraethol cenedlaethol blaenllaw. Gofynnodd y cynrychiolwyr amrywiaeth o gwestiynau am yr effaith amgylcheddol, am y manteision cymunedol, polisi, lleoliad, categoreiddio gwastraff, a diogelwch. Roedd yn bwysig iawn i ni ymgysylltu ac ysgogi deialog a thrafodaeth am y materion allweddol hyn.
Roedd yn brofiad gwerth chwil cael cymryd rhan yng Nghyngres y TUC eleni, ac rydym yn bwriadu mynychu eto y flwyddyn nesaf.
Yn ôl Cara Cusworth, un o gynrychiolwyr undeb RWM, a fu hefyd mewn llawer o’r digwyddiadau ymylol yn canolbwyntio ar yr agenda Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, sef ffocws pwysig i RWM, roedd yn ddigwyddiad gwych. Welwn ni chi yng Nghyngres y TUC 2020 yn Brighton!
Ewch i dudalen gartref ein hymgyrch i gael mwy o wybodaeth am waredu daearegol a beth allai hynny ei olygu i gymunedau.
Recent Comments